Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2017

Amser: 09.17 - 12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4332


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mike Hedges AC (Cadeirydd)

Dai Lloyd AC

David Melding AC

Simon Thomas AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Merlin Hyman, Regen South West

Robert Proctor, Community Energy Wales

Holly Cross, Cwm Arian Renewable Energy

Benedict Ferguson, Community Energy in Pembrokeshire

Grant Peisley, Cyd Ynni

Jenny Wong, Cyd Ynni

Staff y Pwyllgor:

Martha Da Gama Howells (Ail Glerc)

Louise Andrewartha (Dirprwy Glerc)

Chloe Corbyn (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Rhag-gyfarfod preifat

</AI1>

<AI2>

2       Ymchwiliad i 'dai carbon isel: yr her' - trafod tystiolaeth ysgrifenedig

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig a chytunwyd i gynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor y gwanwyn.

</AI2>

<AI3>

3       Ymweliad y Pwyllgor â Senedd a Llywodraeth yr Alban - trafod y canfyddiadau a'r camau nesaf

Trafododd yr Aelodau’r ymweliad a chytunodd i gadw mewn cysylltiad â phwyllgorau cymheiriaid yn neddfwrfeydd eraill y DU.

</AI3>

<AI4>

4       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Dawn Bowden AC a Jayne Bryant AC.

 

Croesawodd y Cadeirydd Joyce Watson AC i'r Pwyllgor a diolchodd i Jenny Rathbone AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.

</AI4>

<AI5>

5       Ymchwiliad i ynni cymunedol - sesiwn tystiolaeth lafar

Cyflwynodd Merlin Hyman a Robert Proctor eu hunain gan ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

</AI5>

<AI6>

6       Ymchwiliad i ynni cymunedol - sesiwn tystiolaeth lafar

Cyflwynodd Benedict Ferguson, Holly Cross, Grant Peisley a Jenny Wong eu hunain gan ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

</AI6>

<AI7>

7       Papur(au) i'w nodi

Nododd yr Aelodau y papurau.

</AI7>

<AI8>

7.1   Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a Gweinidog yr Amgylchedd ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetir'

</AI8>

<AI9>

7.2   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â gweithdy Polisi Cyfoeth Naturiol y Pwyllgor

</AI9>

<AI10>

7.3   Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gwaredu gwaddod wedi'i dreillio ar y môr o dan drwydded forol 12/45/ML.

</AI10>

<AI11>

7.4   Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru

</AI11>

<AI12>

8       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI12>

<AI13>

9       Ôl-drafodaeth breifat

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth ynghylch y canlynol:

 

-        Dadelfennu targedau cenedlaethol ar gyfer ynni cymunedol i'r lefel leol

-        Cynyddu’r gefnogaeth i Ynni Lleol a rhoi sicrwydd hirdymor iddo.

-        Egluro'r trothwyon a'r cymhwyster ar gyfer esemptiadau Ardrethi Busnes ar gyfer prosiectau ynni cymunedol

-        Pa un a yw'n bwriadu cyhoeddi, yn flynyddol, faint o ynni cymunedol sy'n cael ei gynhyrchu gan awdurdodau lleol.

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>